Astudiodd Jeremy Kerrison Ffrangeg, Sbaeneg a
Phortiwgaleg ym Mhrifysgol Salford, Lloegr gan raddio gyda 2:1 ym
1985.
Ers iddo gwblhau ei astudiaethau, mae Jeremy wedi treulio nifer
o flynyddoedd yn gweithio dramor gan gynnwys pum mlynedd yn Ne Ffrainc,
yn ogystal â chyfnodau yn byw ym Mharis, Sbaen, Portiwgal,
yr Unol Daleithiau a Chanada.
Mae Jeremy, sy’n ieithydd profiadol, wedi cyfieithu’r
‘Michelin Green Guides’ i Sbaen, Portiwgal ac Andalwsia,
ac mae'n gyd-awdur (gyda Helen Isaacs) The Practical Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées,
sydd bellach yn ei ail argraffiad.
Am y pymtheg mlynedd diwethaf mae wedi gweithio fel tywysydd teithiau
llaw-rydd yn Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal i gwmnïau enwog fel
Abercrombie & Kent a Page & Moy. Yn ychwanegol mae hefyd
wedi tywys teithiau i Ogledd a De America (gan gynnwys dwy i’r
Amazon) ac wedi arwain un daith o amgylch y byd.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae Jeremy wedi gweithio fel siaradwr
ar fwrdd nifer o fordeithiau moethus i Sbaen, Portiwgal a Morocco
ac wedi darlithio i Gymdeithas Genedlaethol y Cymdeithasau Celfyddyd
Addurniadol a Chain (NADFAS) ar gelf a phensaernïaeth Canol
Sbaen. |
|
Astudiodd Helen Isaacs Ffrangeg ac Eidaleg
ym Mhrifysgol Reading, Lloegr, gan raddio gyda 2:1 ym 1984. Yna
datblygodd ei hastudiaethau iaith ymhellach ym Mhrifysgol Caint
yng Nghaergaint, lle cwblhaodd ddiploma ôl-radd mewn cyfieithu
yn llwyddiannus ym 1985.
Mae Helen wedi treulio cyfnodau hir yn byw dramor, gan gynnwys
blwyddyn yn dysgu Saesneg yn Geneva a phum mlynedd yn ne Ffrainc,
lle gweithiodd fel cyfieithydd a lle bu’n dysgu yn Grandes
Ecoles ENAC ac ENSICA. Mae hefyd wedi byw yn Siena, Rhufain, Aix-en-Provence
a’r Unol Daleithiau.
Ers iddi ddatblygu ei gyrfa cyfieithu, mae Helen wedi gweithio
ar lawer o Green Guides Michelin i’r Eidal ac yn ddiweddar
mae wedi cyfieithu argraffiad newydd the Michelin Green Guide
to Egypt. Mae’n gyd-awdur (gyda Jeremy Kerrison) The Practical
Guide to Toulouse/Midi-Pyrénées, sydd bellach yn
ei ail argraffiad.
Am y pymtheg mlynedd diwethaf mae wedi gweithio fel tywysydd teithiau
llaw-rydd yn Ffrainc, yr Eidal a’r Swistir i gwmnïau
enwog fel Abercrombie & Kent a Page & Moy. Mae teithiau
diweddar wedi cynnwys teithiau cerdded yn Tuscany a’r Alpau
Ffrengig.
|