Mae’r llyfr tywys hwn y gwnaed ymchwil trwyadl ar ei gyfer yn llawn o wybodaeth gryno, hanesyddol, diwylliannol ac ymarferol, gan gynnwys manylion am amgueddfeydd a chofadeiladau, digwyddiadau a gwyliau pwysig, tai bwyta lle gellir blasu’r cuisine lleol, a hyd yn oed sinemâu sy’n dangos ffilmiau yn Saesneg. Mae hefyd yn cynnwys tri thro o amgylch Toulouse, map manwl o’r ddinas, yn ogystal ag 14 o deithiau i’r ardal gyfagos.

Treuliodd awduron y llyfr tywys, Helen Isaacs a Jeremy Kerrison, bum mlynedd yn byw yn ardal Toulouse ac maent wedi arwain nifer o deithiau diwylliannol yn ac o amgylch Toulouse ac ar draws ardal y Midi-Pyrénées.

I archebu copi o’r llyfr tywys hwn, cysylltwch â Telelingua yn y cyfeiriad isod os gwelwch yn dda.

164 tudalen
Fformad 10 x 21cm
Dros 130 o ffotograffau lliw
Clawr meddal
ISBN: 2-910352-24-2
£7.95 / €11.73 (+ postio)

Telelingua
27 Upper House Farm
Crughywel
Powys NP8 1BZ
Cymru
Y DG
Ffôn: + 44 (0)1873 812012
Ffacs: + 44 (0)1873 810066
E-bost: info@telelingua.co.uk