Yn telelingua, gallwn ddarparu gwasanaethau cyfieithu arbenigol i ac o’r Saesneg mewn cyfuniad gyda’r ieithoedd canlynol: Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg, Eidaleg, Sbaeneg a Phortiwgaleg.

Mae ein harbenigedd yn cynnwys:

  • Llawlyfrau a chanllawiau teithio
  • Gwefannau teithio a thwristiaeth
  • Llyfrynnau a phamffledi i swyddfeydd twristaidd, gwestai a bwytai
  • Canllawiau i amgueddfeydd, cofadeiladau a safleoedd twristaidd
  • Testunau bwyd a gwin
  • Erthyglau papur newydd/cylchgronau
  • Hysbysebion a deunyddiau hyrwyddo

Caiff pob testun ei gyfieithu gan siaradwr brodorol yr iaith darged. A gweithia ein cwmni gyda chyfieithwyr sydd â phrofiad yn y diwydiannau teithio a thwristiaeth yn unig.

Mae’r holl ddogfennau a gaiff eu cyfieithu yn cael eu prawf-ddarllen bob amser gan ail gyfieithydd i sicrhau’r ansawdd y mae Telelingua yn enwog amdano. Mae ein prisiau hefyd yn cynnwys prawf-ddarlleniad terfynol o’r testun cyn ei gyhoeddi.